Pwrpas y grant yw gwella canlyniadau i ddysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal. Canlyniad bwriadedig y grant yw helpu i oresgyn y rhwystrau ychwanegol sy'n atal dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig rhag cyflawni eu llawn botensial.
Dyrannwyd £33,962 i Ysgol Gymraeg y Fenni at y pwrpas hwn. Rydym wedi ymrwymo i wella a chefnogi dysgwyr i gyrraedd eu llawn botensial. Felly rydym wedi penderfynu defnyddio ein grant i:
- Drefnu cynorthwywyr i weithio ar draws yr ysgol i ddatblygu sgiliau darllen, llefaredd, cerdd a drama.
- Ddarparu grwpiau ymyrraeth i ddysgwyr gan gynnwys y rhai sy’n ffiniol, yn ddisgwyliedig ac uwch a thargedau.
- Osod targedau byr dymor ar ddiwedd camau cynnydd.
- Darparu ymyrraeth briodol ac olrhain cynnydd dysgwyr tuag at eu lefel ddiwedd blwyddyn ddisgwyliedig.
- Sicrhau bod disgyblion GDD yn cael cefnogaeth unigol.
- Ddatblygu Mentor Dysgu a fydd yn rhedeg grwpiau 'Drawing and Talking' a grwpiau Therapi Lego.
- Gefnogi cyllideb GDD Llangrannog.