Scroll To Top

Urdd


Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Mae nhw’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.

Mae plant Ysgol y Fenni yn mwynhau’r cyfle i ymweld â wersylloedd yr Urdd, yn Llangrannog a Bae Caerdydd, i gystadlu mewn Eisteddfod yr Urdd a chymryd rhan mewn nifer o gystadleuoedd a gweithgareddau chwaraeon.

Mae ‘Clwb Mynwy’ i bobl ifanc sir Fynwy newydd agor gan Urdd Rhanbarth Gwent – gweler y poster am fanylion.

  • 220721-clwb-carco-poster