Scroll To Top

Croeso i Ysgol Gymraeg Y Fenni


"Dysgwn fel teulu, tyfwn fel cymuned"

Braint ac anrhydedd yw eich croesawu chi i wefan Ysgol Gymraeg Y Fenni. Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o gymuned Ysgol Gymraeg Y Fenni. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yng nhghanol cynlluniau bod dydd sydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant ein hysgol. Ein nod yw cynnig ysgol arloesol 3-11 sydd yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg o’r radd flaenaf mewn awyrgylch caredig, teg, cartrefol ac uchelgeisiol. Credwn mewn paratoi disgyblion trwy ddatblygu eu sgiliau a’u gwerthoedd ar gyfer bywyd tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac i wynebu heriau’r unfed ganrif ar hugain. Disgwyliwn y safon orau posibl gan ein disgyblion ac fe wnawn ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad iddynt hwy. Wrth i ni ddychwelyd o gyfnod heriol iawn yn y byd addysg, mae cyfoeth ac ehangder ein gweithgareddau allgyrsiol yn nodwedd bwysig o fywyd a diwylliant yr ysgol hon. Anelwn at sicrhau llwyddiannau academaidd, diwylliannol, cerddorol a chwaraeon gan ddathlu llwyddiant pob disgybl, beth bynnag eu doniau a’u ddiddordebau.  Un o gryfderau ein hysgol yw ei hethos Cymreig a Chymraeg. Rydym yn gymuned garedig, ofalgar, agored a hapus lle mae'r disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg. Anelwn at sicrhau fod dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu diddorol a gweithredol yn ein dysgu ac addysgu. Mae ein disgyblion yn falch o’u hysgol, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac yn medru cyfrannu yn gadarnhaol at gymdeithas amlieithog ac amlddiwylliannol Y Fenni, Cymru a’r Byd. Mae addysgu plant yn gyfrifoldeb mawr ac yn fraint aruthrol. Os ydych yn rhiant i ddisgybl sydd eisoes yn yr ysgol, diolch i chi am ymddiried ynom gyda'r swydd. Os ydych yn ystyried danfon eich plentyn i Ysgol Gymraeg Y Fenni neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni. Yr wyf yn hynod o falch i fod yn Bennaeth ar yr ysgol cyfrwng Cymraeg llwyddiannus ac uchelgeisiol hon, a byddaf wrth fy modd yn eich tywys o gwmpas yr ysgol i chi weld dros eich hun beth allwn gynnig i'ch plentyn a’ch teulu.

Dymuniadau gorau,

Sarah Oliver
PENNAETH

 

Newyddion a Digwyddiadau


 

Newyddion Diweddaraf