Scroll To Top

Siarter IAith


Mae Ysgol Gymraeg y Fenni yn hynod o falch i gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Ysgol Gymraeg y Fenni hefyd wedi ymrwymo i nodau ac amcanion Siarter Iaith ac wedi ei dilysu yn Ysgol Arian.

Nod y Siarter Iaith yw annog plant i siarad Cymraeg yn amlach mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am arwain y Siarter, ac maent yn anelu i ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.

Mae pob aelod o staff wedi ymrwymo i’r nod o sicrhau fod pob disgybl yn cael cyfleoedd i ddatblygu’n ddinasyddion dwyieithog hyderus, sy’n ymfalchïo yn eu diwylliant Cymreig ac yn eu cenedligrwydd. 

Grŵp o blant brwdfrydig yw’r Criw Cymraeg sydd yn gweithio gyda Miss Golding-Hann i sicrhau ein bod ni’n cyrraedd ein nod o ennill gwobr Aur y Siarter Iaith.

Aelodau’r Criw Cymraeg 2025-26

Helygen - Blwyddyn 1

Isla a Rishi

Cedrwydden - Blwyddyn 2

Eirlys ac Isaac

Masarnen - Blwyddyn 3

Rebecca a Henry

Olewydd - Blwyddyn 4

Charlotte, Mari a Harri P

Ceiriosen - Blwyddyn 4

Harry ac Ewan

Gwernen - Blwyddyn 5

Helena a Carys

Derwen - Blwyddyn 6

Enid, Gia a Rose